19 Mai 2022

Vaughan Gething AS 
 Gweinidog yr Economi

Annwyl Vaughan                                                                  

Darparu crynodebau ysgrifenedig o faterion a drafodir mewn cyfarfodydd rhyngweinidogol

Yn ein cyfarfod ar 9 Mai, gwnaethom nodi eich datganiad ysgrifenedig, dyddiedig 28 Ebrill, sef y Diweddaraf am Fesurau Rheoli Ffin, a gyhoeddwyd cyn eich datganiad llafar ar y pwnc yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Mai.

Rydym ar ddeall nad ydych yn bwriadu ysgrifennu at y Pwyllgor er mwyn darparu crynodeb o’r materion a drafodwyd yn y cyfarfod rhyngweinidogol y gwnaethoch gyfeirio ato yn eich datganiad. Credwn y byddai’n briodol ichi wneud hynny, yn unol ag ymrwymiad y Prif Weinidog ym mharagraff 13 o’r Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru.

Nodwn eich bod wedi dweud yn eich datganiad llafar ei bod yn annhebygol y byddwch yn gallu ymateb i geisiadau am wybodaeth ychwanegol fanwl ar hyn o bryd. Fodd bynnag, credwn na ddylai diffyg gwybodaeth fanwl i’w rhannu atal Gweinidogion rhag ysgrifennu at y Pwyllgor, yn unol â thelerau’r Cytundeb, ac yna darparu rhagor o wybodaeth os daw i'r amlwg. Mae gohebiaeth o’r fath yn bwysig o ran caniatáu i’r Pwyllgor graffu ar y materion hyn, gan gynnwys y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Yn gywir,

A picture containing text  Description automatically generated

Huw Irranca-Davies
Cadeirydd